P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

 

Geiriad y ddeiseb

Oherwydd y lefel gynyddol o draffig, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, ar yr A40 ac oherwydd y ddarpariaeth annigonol o balmentydd a chroesfannau cerddwyr diogel, a gydnabyddir gan yr Asiantaeth Cefnffyrdd drwy ymchwil a gyflawnwyd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella diogelwch ar y ffordd ym mhentre Llanddewi Felffre, Arberth, Sir Benfro, drwy roi’r mesurau a ganlyn ar waith, a hynny ar fyrder:

1.    Gwella’r palmant annigonol ar hyd ochr ddeheuol yr A40 rhwng Llandaff Row a phen dwyreiniol y pentref i sicrhau ei fod yn boddhau safonau diogelwch presennol, a’i fod yn ddigon llydan i gael ei ddefnyddio’n ddiogel gan gerddwyr, cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn gan roi ystyriaeth i’r ffaith bod cerbydau nwyddau trwm yn gyrru heibio’n agos ac yn aml ac yn gyrru'n gyflymach na’r terfyn cyflymder presennol o 40 mya.

2.    Gosod camerâu cyflymdra yn nwyrain ac yng ngorllewin y pentref.

3.    Defnyddio system drydanol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer arwyddion i groesi’r ffordd er mwyn darparu goleuadau rhybudd sy’n fflachio ar adegau pan fydd plant yn croesi’r A40 i ddal eu bws ysgol.

4.    Gosod mesurau i ostegu traffig bob ochr i’r pentref ac ar gyffyrdd i bwysleisio’r angen i arafu.

5.    Gostwng y terfyn cyflymder i 30mya.

Linc i’r ddeiseb: http://www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions-old/admissible-pet/p-03-240.htmP-03-240%20-%20Diogelwch%20ar%20ffordd%20yr%20A40%20yn%20Llanddewi%20Felffre

 

Cynigwyd gan: Cyngor Cymuned Llanddewi Felffre

 

Nifer y llofnodion: 154